SL(6)480 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) yn nodi’r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n astudio cyrsiau gradd meistr ôl-raddedig yng Nghymru.

Mae'r pecyn cymorth cyrsiau gradd meistr ôl-raddedig presennol yn cynnwys benthyciadau a grantiau. Mae dwy elfen i’r grantiau: (i) grant sylfaenol cyffredinol £1,000, a (ii) grant cyfrannu at gostau hyd at £5,885 sy'n seiliedig ar brawf modd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2019 i:

·         ddileu’r grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau o'r pecyn cymorth cyrsiau gradd meistr ôl-raddedig, a disodli’r grantiau gyda benthyciad i wrthbwyso’r gwahaniaeth;

·         cynyddu uchafswm gwerth y cymorth drwy fesur chwyddiant (RPIX) i £18,950 (cynnydd 0.9 y cant); drwy gynyddu swm y benthyciad sydd ar gael.

Bydd y diwygiadau i'r cymorth grant ac uchafswm gwerth y cymorth yn gymwys i fyfyrwyr gradd Meistr ôl-raddedig newydd sy'n dechrau cwrs ar neu ar ôl 01 Awst 2024.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Er bod y Memorandwm Esboniadol yn datgan bod y cynigion wedi cael eu trafod â nifer o ‘randdeiliaid allweddol’ (gan gynnwys Prifysgolion Cymru, UCM Cymru a chynrychiolwyr y sector), ni chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n nodi chwe opsiwn a ystyrir gan Weinidogion Cymru i ddiwygio cymorth ariannol cyrsiau gradd meistr ôl-raddedig.  Mae’n datgan y canlynol:

6.3 [...] Mae'r grantiau [a ddisgrifiwyd uchod] wedi'u dileu yn sgil pwysau sylweddol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Mae angen gwneud arbedion. Mae angen gwneud newidiadau cyn blwyddyn academaidd 2024/25 oherwydd y pwysau penodol ar y gyllideb eleni.

6.4 Cafodd yr opsiynau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gradd Meistr ôl-raddedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 eu hystyried yn erbyn yr angen hwn i ailstrwythuro cyllidebau Llywodraeth Cymru, yng ngoleuni'r pwysau cyllidebol sylweddol. Yn ogystal, mae pwysau chwyddiant parhaus yn effeithio ar gostau byw i fyfyrwyr. [...]

Mae paragraff 8.4 yn yr adran ‘Costau a manteision’ o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn datgan y canlynol:

O gymharu â'r polisi presennol, bydd myfyriwr yn colli isafswm o £1,000 ac uchafswm o £6,885 mewn cymorth grant ond gall wneud cais am fenthyciad uwch. Felly, mae dyled myfyriwr yn debygol o gynyddu. Gallai hyn atal rhai darpar fyfyrwyr rhag ymgymryd â chwrs ôl-raddedig – effaith datgymhellol. Nid yw’n bosibl meintioli'r effaith hon. Fodd bynnag, bydd disodli grantiau gyda benthyciadau yn golygu na fydd myfyrwyr newydd yn colli unrhyw incwm wrth astudio o'i gymharu â charfannau blaenorol, gan leihau'r effaith datgymhellol. [pwyslais wedi’i ychwanegu]

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

22 Ebrill 2024